Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol ddynodedig cyfrwng Cymraeg i fechgyn a merched rhwng 11 ac 19 oed gaiff ei chynnal gan Awdurdod Unedol Pen-y-bont ar Ogwr. Dyma’r unig ysgol gyfun Gymraeg ar gyfer yr Awdurdod Unedol. Mae’r ysgol wedi ei lleoli ym mhentref hanesyddol Llangynwyd ac mae’n gwasanaethu dalgylch yr Awdurdod Unedol gyfan.
Mae’n gwasanaethu dalgylch eang sydd yn cynnwys ardaloedd trefol (Maesteg a Phorthcawl) a difreintiedig yn gymdeithasol ac o dan anfantais economaidd.
Derbynia’r ysgol ddisgyblion o bob gallu. Agorodd yr ysgol ym Medi 2008 gyda 128 ym mlwyddyn 7. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21, mae tua 660 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ym mlynyddoedd 7 i 13.