Diogelu

Athro â Chyfrifoldeb Penodedig: Mr Iwan Jones (Pennaeth Cynorthwyol/Assistant Headteacher)

Dirprwy: Mrs Claire Jones / Mrs Lisa Lewis

Llywodraethwr cyswllt: Mrs Elin Mannion

Mae athrawon yn gweld plant bob dydd ac yn ymwybodol o’u datblygiad yn gyffredinol. Maent felly mewn safle gwych i fedru sylwi ar unrhyw newid yn ymarweddiad plentyn a all ddynodi fod yna rywbeth o’i le. Gall fod eglurhad syml am y newid ond mae angen i athrawon fod yn effro gan ymateb i unrhyw arwydd o anhapusrwydd, niwed neu esgeulustod.

Mae gan bob plentyn ei hawliau – ac mae gan blant yr hawl i gael eu diogelu rhag eu cam-drin.

Canllawiau Arfer Da yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Byddwn yn:
  • trin pob plentyn gyda pharch
  • gosod esiampl dda trwy gynnal ein hunain yn briodol
  • sicrhau bod y staff yn fodelau rôl gadarnhaol i blant
  • annog ymddygiad cadarnhaol a diogel ymhlith plant
  • bod yn wrandäwr da
  • bod yn effro i newidiadau yn ymddygiad plentyn
  • cydnabod gall ymddygiad heriol fod yn arwydd o gam-drin
  • darllen dogfennau diogelu ac arweiniad y lleoliad ar faterion diogelu ehangach, er enghraifft , cyswllt corfforol a rhannu gwybodaeth
  • bod yn ymwybodol bod yr amgylchiadau a ffordd o fyw rhai plant a theuluoedd yn arwain at gynnydd yn y perygl o esgeulustod a cham-drin
  • codi ymwybyddiaeth o faterion amddiffyn plant ac arfogi plant gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gadw eu hunain yn ddiogel
  • sefydlu amgylchedd diogel lle gall plant ddysgu a datblygu, yn enwedig eu hyder a’u hunan – barch
Byddwn yn cefnogi plant a’u teuluoedd a staff drwy :
  • gymryd yr holl amheuon a datgeliadau o ddifri
  • ymateb gyda chydymdeimlad i unrhyw gais gan aelod o staff am amser i ddelio â gofid neu bryder
  • cynnal cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth ar sail angen i wybod yn unig gydag unigolion ac asiantaethau perthnasol
  • storio cofnodion yn ddiogel
  • cynnig manylion llinellau cymorth , cwnsela neu ddulliau eraill o gymorth allanol