Senedd yr Ysgol
Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd cawn Senedd yr Ysgol lle mae dysgwyr o bob blwyddyn yn cyfarfod i drafod a chodi ymwybyddiaeth o faterion sydd o bwys i ddysgwyr yn yr ysgol.
Mae gan Senedd yr Ysgol sawl pwyllgor sy’n trafod materion pendant:
- Pwyllgor Cymreictod
- Pwyllgor Amgylchedd
- Grŵp Balch
- Pwyllgor Iechyd a Lles
Disgwylir i bob adran, fel rhan o’u proses hunan-werthuso, wrando ar farn y dysgwyr wrth iddynt barhau i wella darpariaeth a chodi safonau. Yn ychwanegol, yn ystod y flwyddyn, mae’r Uwch Dîm Arwain yn cynnal arolwg dros sawl adran ac mae llais y dysgwr yn chwarae rhan allweddol yn yr arolygon hyn.
Dyma ein haelodau eleni 2021/2022