Chweched Dosbarth
Nod Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw darparu addysg o’r radd flaenaf, cyfleoedd amrywiol ac eang a’r gefnogaeth angenrheidiol er mwyn i bob myfyriwr i wireddu ei botensial a’i ddyheadau i’r dyfodol a hynny mewn awyrgylch Gymraeg a Chymreig. Mae’r Chweched Dosbarth yn rhan hanfodol o fywyd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Ceir yma ddewis eang o gyrsiau, sy’n medru cynnig rhywbeth i bawb, yn enwedig wrth i ni gyd-weithio yn llwyddiannus ag Ysgol Llanhari.
Mae blynyddoedd 12 a 13 yn agored i fyfyrwyr sy’n cwrdd â holl ddisgwyliedig Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Disgwylir i bob darpar fyfyriwr gwrdd â’r gofynion academaidd a gofynion personol. Bydd pob myfyriwr sydd wedi ennill 5 gradd C neu uwch TGAU gydag o leiaf un ohonynt yn bwnc craidd (Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth) yn astudio 3 chwrs lefel 3 (Safon Uwch / BTEC) a’r Tystysgrif Her Sgiliau er mwyn cyflawni Bagloriaeth Cymru. Disgwylir i fyfyrwyr yn y Chweched Dosbarth gyfrannu at ethos yr ysgol gan hybu defnydd yr iaith Gymraeg, yn ogystal â bod yn fodelau rôl cadarnhaol i’r dysgwyr iau.
Mae’r ysgol yn cynnig profiadau gwerthfawr allgyrsiol o dimoedd Chwaraeon i ensemble cerddorol; prosiectau STEM a pherfformiadau dramatig. Yn ogystal, ceir cyfleoedd i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau gwirfoddol fel rhan o gymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau megis rhedeg clybiau i ddysgwyr iau ar brynhawn dydd Gwener, fel rhan o gymhwyster Dug Caeredin, cydweithio gyda mudiad Yr Urdd fel Arweinyddion Chwaraeon a Llysgenhadon hefyd gydag elusennau lleol a rhyngwladol. Trwy hyn ceir cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu’n ddinasyddion cyflawn drwy ddatblygu sgiliau datrys problemau, gweithio gydag eraill a gwella eu perfformiad eu hunain.
Mae gan y chweched wagle dysgu annibynnol modern a chyfoes, sy’n cynnwys cyfleusterau o safon. Mae gan yr ystafell TGCh y feddalwedd fwyaf diweddar, sydd â wifi ar gyfer teclynnau digidol personol. Yn ogystal, mae’r Lolfa yn cynnig ardal gyffyrddus ac anffurfiol i astudio yn eu cyfnodau digyswllt.