Ar brynhawn dydd Gwener nesaf (25/10/24) mi fydd blynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael y cyfle i ddathlu diwedd hanner tymor gyda disgo calan gaeaf!
Mi fydd croeso i ddysgwyr wisgo i fyny mewn gwisg ffansi ar gyfer y disgo ble fydd gwobrau ar gyfer y gwisgoedd gorau ar draws y flwyddyn! Mae gofyn iddynt ddod i’r ysgol mewn gwisg ysgol a mi fydd amserlen newid yn cael ei rannu gyda dysgwyr yn ystod yr wythnos.
Rydym ym gofyn i chi dalu £2 ar School Gateway a fydd yn mynd tuag at elusennau yr ysgol.
Mi fydd dysgwyr y chweched dosbarth yn cynnal siop losin i godi arian tuag at eu prom diwedd blwyddyn felly gofynnwn i ddysgwyr dodd â arian parod i mewn i’r ysgol!