W/D 1/07/24
Newyddion Diweddaraf
Diwrnodau HMS i ddod
Dydd Llun 1/7/2024 – Diwrnod HMS. Dim ysgol i ddysgwyr.
Dydd Llun 22/7/2024 – Diwrnod HMS. Dim ysgol i ddysgwyr.
Gweithgareddau Allgyrsiol W/D 24/6/2024
Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu Cymraeg?
Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu Cymraeg? Beth am ymuno ag un o ddosbarthiadau Dysgu Cymraeg Morgannwg? Mae dosbarthiadau ar bob lefel, o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl sy eisiau gloywi eu hiaith.
Gyda dewis o ddosbarthiadau yn ystod y dydd a gyda’r nos, ar-lein trwy MS Teams neu wyneb yn wyneb, mae rhywbeth i bawb
Ewch i www.learnwelsh.cymru/mg i ddewis eich cwrs.
50% bant o gost eich cwrs gyda’r cod WELSH24
Cyrsiau gyda chyllideb lawn ar gyfer dysgwyr rhwng 18-25 (does dim eisiau cod) neu os ydych chi’n gweithio ym myd addysg yng Nghymru (cysylltwch â learnwelsh@southwales.ac.uk am god disgownt)
Dechreuwr pur ac eisiau cael blas ar wersi Cymraeg? Sesiynau blasu ar gael am ddim.
Gweithgareddau Allgyrsiol W/d 17/06/2024
Swydd – Swyddog Cefnogi Dysgu
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, ymroddgar a hyblyg i weithio fel Swyddog Cefnogi Dysgu i gynorthwyo gyda dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu ar draws yr ystod oedran o fewn prif ffrwd yr ysgol.