Disgo Calan Gaeaf

 

Ar brynhawn dydd Gwener nesaf (25/10/24) mi fydd blynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael y cyfle i ddathlu diwedd hanner tymor gyda disgo calan gaeaf!

Mi fydd croeso i ddysgwyr wisgo i fyny mewn gwisg ffansi ar gyfer y disgo ble fydd gwobrau ar gyfer y gwisgoedd gorau ar draws y flwyddyn! Mae gofyn iddynt ddod i’r ysgol mewn gwisg ysgol a mi fydd amserlen newid yn cael ei rannu gyda dysgwyr yn ystod yr wythnos.

 

Rydym ym gofyn i chi dalu £2 ar School Gateway a fydd yn mynd tuag at elusennau yr ysgol.

 

Mi fydd dysgwyr y chweched dosbarth yn cynnal siop losin i godi arian tuag at eu prom diwedd blwyddyn felly gofynnwn i ddysgwyr dodd â arian parod i mewn i’r ysgol!

Gweithdai llafar TGAU Sbaeneg gan Brifysgol Caerdydd

Annwyl riant/warchodwr,

Dyma neges i’ch hysbysu y bydd eich plentyn yn mynychu gweithdai llafar TGAU Sbaeneg sy’n cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd. Bydd cydlynydd y prosiect yn dod mewn i’r ysgol i gynnal y gweithdai yn ystod gwersi Sbaeneg eich plentyn yn rhad ac am ddim. (Ni fydd y dysgwyr yn colli unrhyw gwersi eraill wrth gymryd rhan yn y gweithdai yma.)

Pwrpas y gweithdai fydd i helpu dysgwyr i fagu hyder tra’n siarad Sbaeneg, i ddatblygu eu sgiliau llafaredd yn barod ar gyfer yr arholiad llafar ym Mlwyddyn 11, ac i’w hannog i barhau i astudio Sbaeneg ar ôl iddynt gwblhau eu cymwysterau TGAU.

Dyma’r dyddiadau y bydd y gweithdai yn cael eu cynnal:

17/10/24

05/11/24

26/11/24

02/12/24

11/12/24

17/12/24

 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth parhaus,

 

Miss A David

Arweinydd yr Adran Sbaeneg

Llais y Lan

Gwelir y ddolen isod a fydd yn mynd a chi i rhifyn tymor y haf o gylchlythyr Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd- Llais y Llan!

LLAIS Y LLAN- CYMRAEG

 

Diolch yn fawr iawn/ Thank you very much,

Tîm Llan

Pecyn Pontio 2024

Gwelir isod pecyn pontio ar gyfer dysgwyr blwyddyn 6 a fydd yn ymuno â Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym mis Medi 2024. Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi gofynnwn i chi gysylltu gyda swyddfa’r ysgol.

 

PECYN PONTIO 2024 TRANSITION PACK-compressed

 

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth / Thank you very much for your support,

 

Mr Owain Tudur

Uwch Arweinydd Addysgeg Bugeiliol

Senior Leader of Pastoral Pedagogy

Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu Cymraeg? 

Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu Cymraeg?  Beth am ymuno ag un o ddosbarthiadau Dysgu Cymraeg Morgannwg?  Mae dosbarthiadau ar bob lefel, o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl sy eisiau gloywi eu hiaith.

Gyda dewis o ddosbarthiadau yn ystod y dydd a gyda’r nos, ar-lein trwy MS Teams neu wyneb yn wyneb, mae rhywbeth i bawb

Ewch i www.learnwelsh.cymru/mg i ddewis eich cwrs.

 

50% bant o gost eich cwrs gyda’r cod WELSH24

 

Cyrsiau gyda chyllideb lawn ar gyfer dysgwyr rhwng 18-25 (does dim eisiau cod) neu os ydych chi’n gweithio ym myd addysg yng Nghymru (cysylltwch â learnwelsh@southwales.ac.uk am god disgownt)

Dechreuwr pur ac eisiau cael blas ar wersi Cymraeg?  Sesiynau blasu ar gael am ddim.

DIWRNOD BYD-EANG SYNDROM DOWN

DIWRNOD BYD-EANG SYNDROM DOWN

DDYDD IAU 21/03/24 

Cefnogwch digwyddiad Pwyllgor Cydraddoldeb Tîm Llan gan wisgo sanau od i’r ysgol ar ddydd Iau i godi ymwybyddiaeth am ddiwrnod byd-eang Syndrom Down!

 

YGGLLAN: Defibruary 1/2/2024

Gwelir poster wedi atodi i’ch hysbysu am ddigwyddiad Defibuary fydd yn digwydd yn yr ysgol ar ddydd Iau 1/2/24. Mi fydd hawl gan ddysgwyr i wisgo gwisg eu hunain i’r ysgol, os dymunant, am gyfraniad o £1 (arian parod) tuag at St John Ambulance.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth/ Thank you very much for your support.