Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae’r ysgol yn ceisio cwrdd ag anghenion dysgu ychwanegol pob dysgwr. Ymatebir i sefyllfa dysgwr unigol trwy wahanol ddulliau, sef tynnu allan o wersi penodol neu trwy roi cynorthwywr cynhaliol i mewn i wersi.
Mae grwpiau ymyrraeth ychwanegol i hybu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Gwneir defnydd o gynlluniau gwahanol ar gyfer cryfhau medrusrwydd darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg. Hefyd, trefnir gwersi i helpu unigolion wella sgiliau cymdeithasol.
Dadansoddir anghenion dysgwr unigol gyda’r teulu er mwyn sicrhau partneriaeth gref ac effeithiol er budd y dysgwr.
Mae gan un o’r Llywodraethwyr gyfrifoldeb am oruchwylio gwaith yr ysgol yn y maes hwn. Sefydlwyd cydweithrediad da rhwng yr ysgol a’r Sir gan gynnwys y gwasanaeth seicolegol addysgol a chydag asiantaethau eraill.
Mae adeilad a safle’r ysgol wedi eu dylunio’n briodol er mwyn hwyluso mynediad a symudiad pobl ag anawsterau ychwanegol.
Canolfan Adnoddau Dysgu ASD Tŷ Derwen
Mae’r ganolfan adnoddau dysgu yn darparu cyfnodau dwys o addysgu effeithiol mewn partneriaeth ag athrawon y brif ffrwd, i godi safonau dysgwyr sydd â diagnosis o anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD).
Mae’r ddarpariaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol a chyfathrebu dysgwyr ag ASD neu anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu. Gall hefyd ganiatáu i ddysgwyr gael mynediad i’r cwricwlwm ar lefel sy’n briodol iddynt drwy eu helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd, annibyniaeth, sgiliau cymdeithasol a medrau bywyd drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu ac addysgu a’u galluogi i gyrraedd eu llawn potensial mewn addysg brif ffrwd.
Mae clybiau yn ystod amser brecwast, egwyl, cinio, yr ystafell synhwyraidd a’r ardaloedd cymdeithasol yn rhoi amgylchedd diogel a thawel i’r dysgwyr lle y gallant gymdeithasu yn ogystal â dal i fyny â gwaith cartref.
Mae’r ganolfan yn cynnig dull gweithredu sy’n ystyriol o ASD yn y ganolfan ac mae’n cefnogi ymagwedd sy’n ystyriol o ASD ar draws yr ysgol.
Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Gwybodaeth i Ddysgwyr
Poster gwybodaeth i ddysgwyr – TAAAC
Wyt ti’n deall yr hyn mae’r athro yn gofyn? (Animeiddiad)
Anhapus gyda’r gefnogaeth rwyt ti’n ei gael yn yr ysgol? (Animeiddiad)
Mae addysg yn newid: anghenion dysgu ychwanegol | LLYW.CYMRU
Gwybodaeth i Rieni
Poster i RIENI: canllawiau cam-wrth-gam i ADY
https://www.bridgend.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-ac-addysg/anghenion-dysgu-ychwanegol/
Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru – beth sy’n digwydd? – YouTube
https://youtu.be/ISba05AGqJk (Canllawiau Rhieni i ADY)
Mae addysg yn newid: anghenion dysgu ychwanegol | LLYW.CYMRU