URDD GOBAITH CYMRU
Mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn darparu amryw o gyfleoedd chwaraeon i ddysgwyr yr ysgol. Fel adran rydym yn cynnig:
Darpariaeth 5×60:
Sesiynau wythnosol sydd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr fod yn fwy actif, i gymdeithasu ac i gynyddu hyder wrth wneud gweithgareddau corfforol. Mae’r sesiynau yma yn agored i bob dysgwr Bl.7-9.
Prosiect Merched:
Mae’r Rhwydwaith Merched yn cynnig cyfleoedd amrywiol i ferched i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol gyda’r bwriad o waredi unrhyw rwystrau sydd yn wynebu merched ifanc rhag bod yn actif yn aml. Mae’r Rhwydwaith Merched yn cwrdd unwaith yr wythnos er mwyn trafod a chynllunio gweithgareddau wythnosol er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau i ferched yn yr ysgol.
Rhaglen Arweinwyr Ifanc:
Mae’r rhaglen Arweinwyr Ifanc wedi’i sefydlu er mwyn cefnogi datblygiad ein dysgwyr Blwyddyn 9+ mewn partneriaeth gydag Ysgol Llangynwyd a chlybiau Chwaraeon yr Urdd. Mae’r rhaglen yma yn darparu cyfleoedd dysgu clir a rhoi cyfle i ddysgwyr datblygu eu sgiliau arwain i safon uchel ac yn sicrhau y cefnogaeth gorau posib i fod yn Arweinwyr Chwaraeon y dyfodol.
Rhaglen Hyfforddiant yr Urdd:
Oes gennych chi’r awydd i hyfforddi? Dewch i ymuno gyda Rhaglen Hyfforddiant yr Urdd!
– Profiad unigryw o arwain sesiynau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg
– Derbyn cymwysterau hyfforddiant chwaraeon
– Cyfrannu tuag at CV a cheisiadau UCAS
– Cit swyddogol hyfforddi yr Urdd
– Cyfle i dderbyn tal yn y dyfodol
Manylion cyswllt:
Lauren Richards
Swyddog Gweithgareddau Pen-y-bont a CNPT|| NPT and Bridgend’s Sports Activity Officer
laurenrichards@urdd.org