Clybiau
Pob brynhawn dydd Gwener mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 i gymryd rhan mewn gweithgareddau all-gyrsiol er mwyn ennyn a datblygu diddordebau gwahanol. Mae’r dysgwyr yn cael dewis pob tymor y clybiau yr hoffent eu mynychu er mwyn cael profiadau amrywiol a hwylus.
Mae aelodau blwyddyn 12 yn rhedeg y clybiau gwahanol gyda chymorth aelodau o staff. Mae hyn yn rhan o’u gwaith ar gyfer y Tystysgrif Her Sgiliau ac felly maent yn cynllunio’n fanwl ac yn sicrhau darpariaeth hwylus a diddorol sy’n helpu datblygu medrau gwahanol ac ychwanegol sydd angen ar ein Dysgwyr Llan.
Clybiau sydd ar gael:
- Clwb Pêl-Rwyd
- Clwb Pêl-Droed
- Clwb TGCh
- Clwb Pêl-Fasged
- Clwb Gemau Bwrdd
- Clwb Celf
- Clwb Pêl-Osgoi
- Meddylgarwch
- Clwb Rygbi
- Clwb Ieithoedd
- Clwb Ffitrwydd
- Clwb Eco
- Clwb Cerddoriaeth
- Clwb Drama
- Clwb Hoci
- Clwb Gymnasteg
- Clwb Dug Caeredin (Blwyddyn 9)